| dc.contributor.author | Carlin, Patrick Joseph | |
| dc.date.accessioned | 2009-07-09T10:35:41Z | |
| dc.date.available | 2009-07-09T10:35:41Z | |
| dc.date.issued | 2009 | |
| dc.identifier.citation | Carlin, Patrick, Cynllunio Ieithyddol mewn Awdurdodau Isranbarthol yng Ngwlad y Basg, Catalwnia a Chymru. Aberystwyth University, 2009 | en |
| dc.identifier.uri | http://hdl.handle.net/2160/2600 | |
| dc.description | The student has requested that this electronic version of the thesis does not include the main body of the work - i.e. the chapters and conclusion. The other sections of the thesis are available as a research resource. | en |
| dc.description.abstract | Prif amcan y ddoethuriaeth yw archwilio rôl awdurdodau isranbarthol i ganfod a ydynt yn actorion o bwys wrth gynllunio’n ieithyddol yn y system ranbarthol rynglywodraethol. Mae’n cyflawni’r nod yma drwy ddau brif amcan. Yn gyntaf, dangosir bod bwlch yn y llenyddiaeth ar CI a pholisi iaith o safbwynt gweithgarwch gan lywodraeth isranbarthol. Yn y llenyddiaeth yma, tueddir o hyd i ragdybio y bydd yr haen yma o lywodraeth yn gweithredu polisïau iaith sy’n deillio o haenau eraill llywodraeth, fel arfer gan y llywodraeth ranbarthol yn achos ieithoedd anwladwriaethol tiriogaethol. Yna, mewn tair pennod empirig, dadansoddir ymdrechion gan lywodraeth isranbarthol yng Ngwlad y Basg, Catalwnia a Chymru i lunio a llywio polisïau iaith. Dangosir yn glir bod yr haen yma o lywodraeth yn ganolog i’n hymdrechion i weld yn eglurach y mannau hynny lle y bydd polisïau iaith yn cael eu creu a’u rhoi ar waith. Yn ychwanegol at wneud cyfraniad o safbwynt creu gwybodaeth newydd am weithgarwch penodol haen o lywodraeth, defnyddir y data empirig i astudio’r ymwneud rhynglywodraethol rhwng yr haen isranbarthol a’r llywodraeth ranbarthol er mwyn canfod rhagor am y berthynas rym a lefelau’r cydweithredu rhwng y ddwy haen. Dadansoddaf sut mae graddau cefnogaeth y llywodraeth ranbarthol i amcanion cyffredinol cynllunio ieithdyddol (CI) yn dylanwadu, yn cyfyngu neu’n ysbarduno gweithgarwch llywodraeth isranbarthol. Mae’r rôl y bydd pleidiau gwleidyddol rhanbarthol yn eu chwarae fel ysgogwyr a chyfryngwyr polisïau iaith ar draws y maes rhynglywodraethol yn hanfodol i deall yn well y berthynas rhwng gweithgarwch CI a wneir ar y lefel isranbarthol a rhanbarthol. | en |
| dc.language.iso | cy | en |
| dc.publisher | Aberystwyth University | en |
| dc.title | Cynllunio Ieithyddol mewn Awdurdodau Isranbarthol yng Ngwlad y Basg, Catalwnia a Chymru | en |
| dc.type | Text | en |
| dc.type.publicationtype | doctoral thesis | en |