Abstract:
Yn y traethawd hwn byddaf yn dadansoddi'r cyfeiriadau at ddillad, tecstiliau ac ategolion sy'n ymddangos yn llenyddiaeth ganoloesol Cymru. Y ffynonellau craidd yw'r rhyddiaith a'r farddoniaeth sydd eisoes wedi eu golygu ac yn dyddio o'r cyfnod c. 700 hyd at c. 1600.
Ceir pum pennod fel a ganlyn. Yn gyntaf, y defnyddiau a'r tecstiliau a gaiff eu trafod a sut yr ymdrinnir â hwy yn y llenyddiaeth yn y cyfnod dan sylw. Canolbwyntir ar y cyfnod cyn 1100 yn yr ail bennod a thrafod y dystiolaeth lenyddol, archeolegol a darluniadol yn y cyfnod hwnnw. Yn y drydedd bennod canolbwyntir ar ddillad y tywysogion a'r uchelwyr o'r ddeuddegfed ganrif hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg gan rannu'r bennod yn gronolegol. Yna, gwisgoedd yr arglwyddesau a'r uchelwragedd a gaiff y sylw yn y bedwaredd bennod a sut yr ymdrinnir â'u gwisgoedd yn y gwahanol destunau golygedig. Yn y bumed bennod trafodir dillad eraill yn y gymdeithas, gan rannu'r bennod yn is-benodau ar ddillad y werin, dillad galar, dillad crefyddol a dillad plant. Wedi'r penodau hyn cyflwynir enghreifftiau o'r dystiolaeth weledol ac archeolegol mewn delweddau.
Cynhwysir tri atodiad ar ddiwedd y traethawd. Mae'r cyntaf yn ychwanegiad i bennod tri ac yn drafodaeth fwy manwl am y wisg wrywaidd a oedd yn hynod boblogaidd yn ystod y bymthegfed ganrif, sef y ffaling. Yn yr ail atodiad ceir ychwanegiad i'r bennod ar wisgoedd arglwyddesau ac uchelwragedd gan drafod yn fanwl y diddordeb mewn penwisgoedd menywod. Y trydydd atodiad yw'r eirfa sy’n cynnwys termau am ddillad, tecstiliau ac ategolion ynghyd ag eglurhad a tharddiad cryno.
Description:
Noder bod y delweddau a gynhwyswyd ar gyfer pwrpasau arholi yn unig wedi eu tynnu allan. Gellir gweld y traethawd gwreiddiol ar bapur yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth (rhif dosbarth yr eitem AC1.W1.2694).
Note that the images included for the purposes of examination only have been removed. The original paper thesis can be seen in Hugh Owen Library, Aberystwyth University (classmark AC1.W1.2694).