| dc.contributor.advisor | Williams, Gruffydd Aled | |
| dc.contributor.author | Morgan, Adrian | |
| dc.date.accessioned | 2008-02-26T14:44:12Z | |
| dc.date.available | 2008-02-26T14:44:12Z | |
| dc.date.issued | 2008 | |
| dc.identifier.uri | http://hdl.handle.net/2160/512 | |
| dc.description.abstract | Yn y traethawd hwn ymdrinnir â dau o brif weithiau Robert Holland (c. 1556/7-1622), sef ei Ymddiddan Tudur a Gronw a gyhoeddwyd yn Rhydychen yn 1600 a'i gyfieithiad Cymraeg o Basilikon Doron y brenin Iago a gyhoeddwyd yn 1604. Yn y bennod gyntaf trafodir y manylion bywgraffyddol sy'n hysbys am Robert Holland ac ymdrinnir â'i gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caer-grawnt gan nodi nifer o unigolion a allai fod wedi dylanwadu ar yr efrydydd ifanc. Yna, trafodir ei safbwynt diwinyddol a cheisir olrhain ei yrfa fel offeiriad yn Eglwys Loegr. Ceisir crynhoi ei gysylltiadau diddorol yn sir Benfro a thu hwnt a chroniclir ei yrfa lenyddol hefyd. Yn yr ail bennod rhoddir sylw i'w draethawd yn erbyn dewiniaeth—sef Ymddiddan Tudur a Gronw—sydd ar ffurf ymddiddan rhwng dau gymeriad. Ymdrinnir â'r testun ei hun a cheisir crynhoi manylion ei argraffu. Ar sail tystiolaeth a ganfuwyd yn y Y Ffydd Ddiffuant gan Charles Edwards, dadleuir i'r testun gael ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn 1600. Creffir ar ddiddordeb mynych y cyfnod hwn mewn dewindabaeth a cheisir crynhoi ymateb y Cymry i'r mania hwn. Yna, ymdrinnir â chynnwys y testun. Mae’r atodiad sydd ynghlwm wrth y traethawd hwn yn gymhariaeth o'r fersiwn llawysgrif (sydd i’w gael yn Llsgr. Cwrtmawr 114B) a'r fersiwn printiedig a olygwyd gan Stephen Hughes yn 1681. Yn y drydedd bennod ymdrinnir â chefndir y testun gwreiddiol a rhoddir sylw i amgylchiadau ei gyhoeddi a'i argraffu. Trafodir cynnwys y testun yn fanwl a chreffir ar amgylchiadau cyhoeddi'r fersiwn Cymraeg. Cynigir nifer o resymau dros ei gyfieithu ac ymdrinnir yn fras ag ansawdd y cyfieithiad. | cy |
| dc.format.extent | 28672 bytes | |
| dc.format.extent | 39424 bytes | |
| dc.format.extent | 200192 bytes | |
| dc.format.extent | 279040 bytes | |
| dc.format.extent | 426496 bytes | |
| dc.format.extent | 64512 bytes | |
| dc.format.extent | 53248 bytes | |
| dc.format.extent | 94720 bytes | |
| dc.format.mimetype | application/msword | |
| dc.format.mimetype | application/msword | |
| dc.format.mimetype | application/msword | |
| dc.format.mimetype | application/msword | |
| dc.format.mimetype | application/msword | |
| dc.format.mimetype | application/msword | |
| dc.format.mimetype | application/msword | |
| dc.format.mimetype | application/msword | |
| dc.language.iso | cy | en |
| dc.publisher | University of Wales, Aberystwyth | en |
| dc.publisher | Prifysgol Cymru Aberystwyth | cy |
| dc.title | Dau o weithiau Robert Holland (c. 1556/7-1622): Ymddiddan Tudur a Gronw a’r Basilikon Doron | en |
| dc.type | Text | en |
| dc.publisher.department | Welsh | en |
| dc.type.qualificationlevel | research masters | en |
| dc.type.qualificationname | MPhil | en |
| dc.type.publicationtype | thesis or dissertation | en |