Astudiaeth gymharol o'r camau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ceredigion

H...............H

Show simple item record

dc.contributor.author Carlin, Patrick Joseph
dc.date.accessioned 2008-05-20T16:06:11Z
dc.date.available 2008-05-20T16:06:11Z
dc.date.issued 2004
dc.identifier.uri http://hdl.handle.net/2160/572
dc.description.abstract Ymgais i ddisgrifio a dadansoddi ymdrechion mewn dau awdurdod unedol yng Nghymru i hyrwyddo'r defnydd mewnol o'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus rhwng 1973 hyd y presennol fydd hanfod y traethawd hir hwn, ynghyd â chynnig fframwaith rhesymu dros gyfreithloni'r ymdrechion hyn fydd yn seiliedig ar safonau ac offerynnau Ewropeaidd a rhyngwladol. Tri phrif nod sydd i'r traethawd. Yn gyntaf, drwy ymdriniaeth o safonau normatif ac offerynnau cyfreithiol rwymol rhyngwladol, gobeithiaf ddangos pam bod yr ymdrechion hyn i gyfreithloni'r iaith leiafrifol yn parhau hyd heddiw i gael eu tanseilio'n gysyniadol. Bydd yr ymdriniaeth hon ynghylch cyfreithlonedd yn arwain at yr ail nod sef manylu ar y berthynas rhwng gwleidyddiaeth plaid a byd llai disglair allbynnau polisi ynghylch hybu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ceredigion. Bydd yn manylu'n benodol ar benderfyniadau ac ymrwymiadau gwleidyddol lleol, neu'r diffyg ohonynt, sydd wedi effeithio ar y defnydd o'r Gymraeg fel cyfrwng gweinyddiad mewnol y ddau awdurdod unedol hyn. Er mwyn creu sylfaen empirig i ddadansoddi'r penderfyniadau ac ymrwymiadau hyn, fe gynhaliwyd deg cyfweliad lled-strwythuredig i gasglu data ansoddol a meintiol yn y ddau awdurdod unedol. Yn gysylltiedig â'r nod hwn felly, ymdrechaf i esbonio pam, er gwaethaf y llwyddiant ymddangosiadol ysgubol i sicrhau shifft ieithyddol yn y defnydd o iaith yn un o'r awdurdodau hyn sef Cyngor Gwynedd, nad yw'r camau hyn wedi datblygu'n feincnod ar gyfer mannau eraill yng Nghymru a thu hwnt, gyda'r canlyniad anochel na dderbyniodd fawr sylw o du llunwyr polisi na chwaith gan academyddion, gan daflu o'r herwydd amheuaeth ar gyfreithlonedd a hygrededd y broses o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Bydd yr ystyriaethau a amlygir yn y ddau nod uchod yn arwain at drydydd sef dod i gasgliad ynghylch a yw'r defnydd o'r naill iaith yn sefyllfa o fudd anghyfartal (zero-sum game) sy'n nacáu'r defnydd ystyrlon o'r llall mewn cyd-destunau ieithyddol penodol. Rhennir y traethawd hir yn chwe phennod. Bydd yr ail bennod yn amlinellu'r cefndir, a'r amwysedd, ynghylch hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol. Fe osodir yr hawliau hyn mewn cyd-destun Ewropeaidd a rhyngwladol gan yna daflu goleuni ar y diffyg cytundeb ynghylch sut y dylid diffinio'r hawliau hyn a beth yw goblygiadau'r fath ddiffyg cytundeb ar gyfer cyfreithloni'r defnydd o'r iaith lai ei defnydd. Fe geir hefyd ymdriniaeth ar gynaladwyedd dwyieithrwydd, dwyieithedd (diglossia), tiriogaeth a chraidd parhaol (critical mass) fydd yn greiddiol i'r ymchwiliad a welir ym Mhennod 4 a 5. Rhydd Pennod 3 gyflwyniad i'r fframwaith empirig a ddefnyddiwyd, gan drafod rhesymeg a methodoleg y cyfweliadau. Ym Mhennod 4 a 5, fe ddadansoddir y data empirig a gafwyd mewn cyfweliadau ag aelodau etholedig a swyddogion y ddau awdurdod unedol. Yn y ddwy bennod hyn, fe fyddaf yn craffu ar sut mae trefniadaeth yr awdurdod yn rhoi'r Gymraeg ar waith yn fewnol ynghyd â dadansoddiad o'r graddau y mae hyn yn llwyddo. Yn y ddwy bennod hyn fe gymherir o fewn pob awdurdod i weld a oes offerynnau polisi a gweithredu penodol lle y bu/ceir cytundeb ac anghytundeb barn, nid yn unig ymhlith y swyddogion ond hefyd o blith swyddogion a gwleidyddion, gan dynnu sylw at y rhesymeg dros hyn. Yn ogystal, bydd Pennod 4 a 5 yn ceisio creu pontydd cysyniadol rhwng y data empirig a gasglwyd a'r sylfeini theoretig a ddatblygwyd yn y bennod gyntaf. Gan y byddaf yn defnyddio Cyngor Gwynedd fel meincnod, bydd Pennod 5 hefyd yn cynnwys cymhariaeth rhwng y ddau awdurdod, a hynny er mwyn dadansoddi'r polisïau a'r dulliau gwahanol a arddelwyd ym mhob achos i weld a gafwyd llwyddiant sydd yn briodol i bob awdurdod, gan awgrymu ble y gallai arferion da yn y naill a'r llall groesbeillio ei gilydd. Bydd y casgliad yn manylu ar ddwy thema greiddiol sy'n deillio o ganfyddiadau'r astudiaeth gymharol cyn trafod arwyddocâd y themâu hyn yng nghyd-destun tri phrif nod y traethawd hir. cy
dc.format.extent 271872 bytes
dc.format.mimetype application/msword
dc.language.iso cy en
dc.publisher Prifysgol Aberystwyth cy
dc.publisher Aberystwyth University en
dc.title Astudiaeth gymharol o'r camau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ceredigion cy
dc.type Text en
dc.publisher.department Gwleidyddiaeth Ryngwladol cy
dc.publisher.department International Politics en
dc.type.qualificationlevel taught masters en
dc.type.qualificationname MSc Econ en
dc.type.publicationtype thesis or dissertation en


Files in this item

This item appears in the following Collection(s)

Show simple item record

Search Cadair


Advanced Search

Browse

My Account