Abstract:
Cynigir yma astudiaeth destunol o'r tri chyfieithiad Cymraeg
cynharaf o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy. Yn y ddwy adran
gyntaf yn y Rhagymadrodd rhoddir peth o hanes yr astudiaeth Gymreig o'r
Brut, a thrafodir dylanwad Sieffre ar newid agwedd a fu yn y ganrif hon. Rhoddir rhestr o'r llawysgrifau sy'n cynnwys copiau
o'r Brut yn y drydedd adran a cheisir eu dosbarthu yn chwech fersiwn; eglurir natur gyfansawdd fersiwn Llyfr Coch Hergest a chyfeirir at ddarnau
o'r testun na chytunant â'r chwe fersiwn cyflawn. Wedi gosod cefndir yr
astudiaeth yn y dull hwn, troir at y tri fersiwn cynharaf, sef fersiwn Dingestow, fersiwn L1anstephan 1 a fersiwn Peniarth 44. Ymdrinnir â phob
un o'r rhain ar wahân. Disgrifir pob copi o'r fersiynau hyn a rhoddir stemma i egluro perthynas y llawysgrifau. Dadansoddir cynnwys pob fersiwn
hefyd a dangos yn weddol fanwl ei berthynas â'r Lladin. Mewn adran fer
gelwir sylw at nodwoddion tebyg yn y tri chyfieithiad er eu bod wedi'u
seilio ar gopïau gwahanol o'r Historia. Yn olaf, cynhwysir yma "argraffiad" beirniadol o fersiwn Peniarth 44, gyda nodiadau, geirfa a rhestr o enwau personol ac enwau lleoedd. Disgrifir orgraff y testun yn fanwl a cheisir
dadansoddi'r iaith a'r gramadeg. Gan fod 1lawysgrif Peniarth 44 yn perthyn
i flynyddoedd cynnar y XIII ganrif a chan mai tua 1137 y cyfansoddwyd yr Historia, y mae modd dyddio'r cyfieithiad yn niwedd y XIIg. neu ddechrau'r XIIIg.