Abstract:
Ceir yn y traethawd hwn astudiaeth o enwau lleoedd chwe phlwyf (Llanafan
Fawr, Llanddewi Abergwesyn, Llanfihangel Abergwesyn, Llanfihangel Bryn
Pabuan, Llanwrtyd, a Llanwrthwl) a dwy dref ddegwm (Llysdinam a Rhosferig) yng
ngogledd Cantref Buellt yn yr hen sir Frycheiniog. Fe'i seilir ar gronfa helaeth o
ffurfiau o'r holl enwau a gasglwyd o ystod eang o ffynonellau ysgrifenedig (o'r
nawfed ganrif hyd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif) ac oddi ar lafar. Caiff y
ffynonellau hynny eu trafod a'u gwerthuso mewn pennod ragarweiniol. Trefnir y
gwaith yn ôl trefn y wyddor fesul plwyf, a cheisiwyd nodi lleoliad ac uchder ar gyfer
pob enw, gan gynnig dehongliad Ile bo angen. Cynhwysir atodiadau o enwau caeau
(wedi eu rhestru dan enw'r daliad) ar ddiwedd pob adran. Ceir pedwar mynegai i'r
gwaith; mynegai i'r elfennau Cymraeg a Cheltaidd (sy'n cynnwys ymdriniaethau â'r
elfennau mwyaf cyffredin), mynegai i'r elfennau Saesneg, Ffrangeg, ayb., mynegai i
enwau priod, a mynegai i enwau lleoedd gogledd Buellt (sy'n cynnwys
croesgyfeiriadau or holl ffurfiau amrywiol).
iv