Abstract:
Asesiad yw'r traethawd hwn o effeithiolrwydd y Mentrau Iaith yng Nghymru. Mewn cyd-destun a’u gwelodd yn esblygu i fod yn brif actorion a gweithredwyr polisi tuag at yr iaith ar y gwastad lleol, hanfod ein dadl yw bod eu sefydlu wedi bod yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch pwysigrwydd y 'cymunedol’ ar gyfer hybu adfywiad ieithyddol. Ar gyfer archwilio’r wedd hon olrheinir datblygiad y cysyniad o gymuned ynghyd â dau gysyniad cysylltiol, datblygu cymunedol ac ymbweru cymunedol. Llunnir model cymunedol cyfoes, a ganiatâ edrych ar newidiadau a ddigwydd pan symudir oddi wrth gymunedau mwy sefydlog tuag at rai mwy llac eu gwead. Ystyrir sut y daethpwyd i ddeall ystyr y cymunedol yn y cyd-destun Cymreig, sut y bu i gymunedau'r Gymraeg brofi newidiadau pellgyrhaeddol, ond hefyd sut y bu i'r dimensiwn hwn barhau’n ddylanwadol yn y ddisgwrs ynghylch sicrhau eu dyfodol, a ffurfiannol wrth lunio polisi. Trafodir perthnasedd cynllunio ieithyddol ac olrheinir tarddiad y Mentrau, ynghyd â sylwebaeth gynnar ar eu rhagoriaethau a'u gwendidau posib. Gan gyflwyno persbectif damcaniaethol newydd, fe gynigir model o'r Gymraeg mewn perthynas â'i chymunedau heddiw- un a'i gwêl yn symud oddi wrth y tiriogaethol ble mae’n fwyafrifol a'r rhwydweithio yn ddigymell, tuag at un leiafrifol ble y rhwydweithir yn ymwybodol a dewisol. Gosodir pedair astudiaeth achos (Mentrau Iaith Môn, Gwendraeth-Elli, Conwy a Chaerdydd) oddi fewn i fatrics er mwyn adlewyrchu'r ddeinameg gymunedol-ieithyddol a gynhwysir yn y model. Astudir dogfennaeth berthynol, a’i gyfuno â chyfweld ansoddol dwys, i holi sut y cymhwysa’r Mentrau’r gysyniadaeth gymunedol y dadleuwn sy’n greiddiol i’w gweledigaeth. Prif gasgliadau’r ymchwil yw bod y Mentrau yn ymdrechu yn egnïol a chydwybodol i hyrwyddo’r Gymraeg yn y cyd-destun cymunedol, ond os am gynyddu eu heffeithiolrwydd, fod y dimensiwn hwn yn un y dylid ei gyflenwi â strategaethau mwy cydlynol a chenedlaethol, gyredig gan fwy o ewyllys gwleidyddol.