Sefydlwyd Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru yn 2006 i gydlynu a datblygu darpariaeth Cymraeg i Oedolion yng nghanolbarth Cymru, sy’n cynnwys siroedd Ceredigion, Powys ac ardal Meirionnydd yng Ngwynedd. Lleolwyd y Ganolfan yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth. Arbenigedd Prifysgol Aberystwyth ym maes Cymraeg i Oedolion yw darparu a datblygu cyrsiau dwys i ddechreuwyr, cyrsiau uwch i ddysgwyr profiadol ynghyd â chyrsiau hyfedredd i siaradwyr iaith gyntaf. Yn y casgliad hwn ceir adnoddau dysgu ac addysgu a ddatblygwyd, ac a ddefnyddir, gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth yn ogystal ag allbynnau ymchwil a gomisiynwyd gan y Ganolfan. Gellir dosbarthu’r adnoddau dysgu fel a ganlyn:
| Teitl | Lefel yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (CQFW) |
| 1. Cwrs Sylfaenol Ceredigion | Mynediad a Sylfaen (1) |
| 2. Cwrs Pellach | Canolradd (2) |
| 3. Cwrs Uwch | Uwch (3) |
| 4. Cwrs Meistroli | Uwch (3) |
| 5. Cwrs Gloywi | Hyfedredd (4) |
| 6. Cymraeg Proffesiynol | Hyfedredd (4) |
The Mid Wales Welsh for Adults Centre was established in 2006 to coordinate and develop the Welsh for Adults provision in mid Wales, which includes the counties of Ceredigion and Powys together with the Meirionnydd area of Gwynedd. Aberystwyth University’s expertise in the field of Welsh for Adults includes providing and developing intensive courses for beginners, advanced courses for experienced learners together with proficiency courses for first language speakers. This collection includes learning and teaching resources developed, and currently employed, by The Mid Wales Welsh for Adults Centre together with research outcomes commissioned by the Centre. The teaching resources can be classified as follows:
| Title | Level in the CQFW |
| 1. Cwrs Sylfaenol Ceredigion | Entry and Foundation (1) |
| 2. Cwrs Pellach | Intermediate (2) |
| 3. Cwrs Uwch | Advanced (3) |
| 4. Cwrs Meistroli | Advanced (3) |
| 5. Cwrs Gloywi | Proficiency (4) |
| 6. Cymraeg Proffesiynol | Proficiency (4) |