Abstract:
Diben yr unedau yn y cwrs hwn yw adolygu ac ymestyn yr eirfa a’r patrymau a ddysgwyd
(which were learnt) yn ystod Cwrs Sylfaenol Ceredigion a’r Cwrs Pellach, tra’n cyflwyno
sefyllfaoedd cyfathrebol (communicative situations) newydd. Dylai’r rhain fod o ddiddordeb
mawr i bobl sydd mewn swyddi lle maen nhw’n dod i gysylltiad uniongyrchol (direct
contact) â’r cyhoedd.
Bwriedir i’r cwrs hwn fod yn gam cynta i’r myfyrwyr sydd eisiau sefyll Arholiad
Defnyddio’r Gymraeg: Uwch Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Ac felly, dewisir
gweithgareddau sy’n cyd-fynd â maes llafur yr arholiad hwnnw. Ond dylai’r rhai sydd ddim
â’u bryd ar ennill cymwysterau uwch (advanced qualifications) fod ar ei ennill (benefit)
hefyd.