Abstract:
Lluniwyd Cymraeg Proffesiynol – Rhan Un i helpu siaradwyr Cymraeg, a dysgwyr
profiadol, i wella eu sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu yn yr iaith fel y gallant drafod
pynciau cymhleth mewn sefyllfaoedd busnes a phroffesiynol yn y Gymraeg.
Yn y cwrs hwn, rhoir sylw arbennig i ramadeg y Gymraeg, sgiliau cyfieithu a
chyfansoddi dogfennau a llythyrau yn ymwneud â byd busnes. Ar yr un pryd, nid
anghofir sgiliau darllen a deall a thrafod.
Gwneir hyn drwy gyfuniad o hyfforddiant manwl, trafod pwrpasol yn y dosbarth a
hunan astudio tu allan i oriau’r dosbarth. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn
credydau, rhaid gwneud yr aseiniadau sy’n gysylltiedig â’r cwrs a’u pasio.